Roedd Ellis Wynne, 1671-1734, yn reithor, yn fardd, yn gyfieithydd ac yn frenhinwr ond mae'n fwy adnabyddus fel awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsg a gyhoeddwyd gyntaf ym 1703. Caiff y Bardd Cwsg ei arwain drwy dair weledigaeth lle mae'n dilyn taith pechaduriaid ar eu ffordd i uffern. Mae yma ddychymyg gwreiddiol a dychan brathog ac mae'r cwbl wedi ei ysgrifennu mewn iaith sy'n gwbl naturiol ac yn adlewyrchu iaith lafar Meirionnydd ar droad y 18fed ganrif. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys tri llyfr, yn ogystal a Gweledigaethau y Bardd Cwsg a olygwyd gan D. Silvan Evans mae dau gyfieithiad Saesneg, The Visions of the Sleeping Bard gan Gwyneddon Davies a The Sleeping Bard gan George Borrow.
- ISBN10 1291635262
- ISBN13 9781291635263
- Publish Date 5 December 2013 (first published 1 December 2013)
- Publish Status Active
- Publish Country GB
- Imprint Lulu Press Inc
- Format Paperback
- Pages 444
- Language Welsh