Rhys Lewis: Hunangofiant Rhys Lewis

by Daniel Owen

0 ratings • 0 reviews • 0 shelved
Book cover for Rhys Lewis

Bookhype may earn a small commission from qualifying purchases. Full disclosure.

"Mae arnaf flys ysgrifennu hanes fy mywyd fy hun, nid i eraill, ond i mi fy hun; ac yn sicr nid i'w argraffu, ond yn hytrach fel math o hunan-gymundeb." Er protestiadau Rhys Lewis mae ei hunangofiant ar gael dros ganrif ers ei chyhoeddi. Disgrifia Rhys Lewis ei fywyd adref gyda'i fam a'i frawd Bob, yn yr ysgol dan law llym Robyn y Sowldiwr, fel prentis yn siop Abel Hughes ac fel myfyriwr yng Ngholeg y Bala cyn cael ei benodi'n Weinidog Capel Bethel. Mae'r penodau yng nghwmni Wil Bryan a Thomas Bartley yn hwyliog a doniol ond mae tristwch mawr yng nghefndir teulu'r Lewisiaid - perthynas Robert a Mary, damwain erchyll Bob yn y pwll glo a salwch Rhys ar ol dychwelyd i Bethel. Roedd Daniel Owen, 1836-1895, yn deiliwr yn Yr Wyddgrug ac yn disgrifio'i gymdeithas ar ddiwedd y 19eg Ganrif.
  • ISBN10 1909696005
  • ISBN13 9781909696006
  • Publish Date 1 March 2013
  • Publish Status Active
  • Publish Country GB
  • Imprint Cromen
  • Format eBook
  • Language English