Mae'r fersiwn Gymraeg gan Wasg Addysgol Cymru hefyd yn fersiwn ddiweddaraf o'r dyddiadur a gyhoeddwyd ar draws y byd ym 1996. Mae'r fersiwn newydd, cyflawn hwn o'i dyddiadur yn cynnwys toreth o ddeunydd na chynhwyswyd mohono erioed o'r blaen. Trwy dudalennau'r gyfrol hon, down i adnabod yr Anne Frank go iawn, a rhannu'r gobeithion a'r ofnau, y profiadau a'r emosiynau, a gofnodwyd ganddi yn ystod y ddwy flynedd y bu hi a'i theulu'n cuddio rhag y Natsiaid yn Amsterdam. Dyma glasur o lyfr, yng ngwir ystyr y gair.
- ISBN10 1899869018
- ISBN13 9781899869015
- Publish Date 1 September 2000
- Publish Status Active
- Publish Country GB
- Imprint Gwasg Addysgol Cymru
- Format Paperback
- Pages 269
- Language Welsh