Yn ei arweiniad bywiog i farddoniaeth a beirdd y Cymry hyd at gyfnod beirdd yr uchelwyr, llwydda Gwyn Thomas i brofi bod traddodiad o unrhyw werth yn beth byw a chreadigol. Ceir yn y llyfr yma gyflwyniad i nodweddion barddoniaeth y cyfnodau gwahanol yn ein traddodiad, i'r personoliaethau y tu ol i'r farddoniaeth ac i'r cerddi eu hunain, wedi'u cyfieithu i Gymraeg cyfoes a bywiog. Dyma un o'r llawlyfrau mwyaf defnyddiol ym maes llenyddiaeth Gymraeg ac un sy'n cyfuno ysgolheictod o'r radd flaenaf ag arddull sionc ac apelgar. Cyflwynir y deunydd mewn modd fydd yn apelio at bawb sy'n ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg ond eto bydd yn addas ar gyfer myfyrwyr y traddodiad barddol.
- ISBN13 9780708306239
- Publish Date 18 December 2002
- Publish Status Out of Stock
- Out of Print 9 November 2012
- Publish Country GB
- Publisher University of Wales Press
- Imprint Gwasg Prifysgol Cymru
- Format Paperback
- Pages 240
- Language Welsh