Llyfryn byr i helpu'ch eglwys i gyflwyno neges Cristnogaeth i bobl ifanc yn eu harddegau yw Stori Wir. Ysgrifennwyd Stori Wir gan Pete Brown, sy'n weinidog ieuenctid ac yn efengylydd, ac mae'n gwahodd pobl ifanc i feddwl am chwe achlysur yn yr Efengylau pryd y mae Iesu'n cael dylanwad ar bobl eraill. Mae'n cynnwys: * Iaith weledol gyfoethog a chyfoes.* Elfennau rhyngweithiol, yn cynnwys cwestiynau i fyfyrio arnynt a lle i ysgrifennu nodiadau.* Fformat hwylus lle mae darnau o'r Beibl yn cael eu cyflwyno mewn adrannau arbennig mewn llyfryn mewnol pwrpasol. Mae Stori Wir yn anrheg ddelfrydol i bobl ifanc sydd heb gysylltiad a chapel nac eglwys, rhai sy'n chwilio, a Christnogion newydd sy'n awyddus i wybod mwy am neges Cristnogaeth. Mae'n wych ar gyfer grwpiau ieuenctid, gwersylloedd haf a digwyddiadau efengylu ac yn ddelfrydol ar gyfer: * ei roi i bobl ifanc sy'n chwilio i'w ddefnyddio ar eu pen eu hunain; * ei ddarllen gyda pherson ifanc neu gyda'r teulu cyfan;* ei ddefnyddio gyda grwp bach yn yr eglwys neu mewn clwb ysgol.
- ISBN10 1785066439
- ISBN13 9781785066436
- Publish Date 18 April 2017
- Publish Status Out of Print
- Out of Print 16 August 2024
- Publish Country GB
- Imprint Scripture Union Publishing
- Format Paperback
- Pages 64
- Language Welsh