Yn ymestyn o'r Oesoedd IĆ¢ hyd y dwthwn hwn, mae'r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o'r byd y daethpwyd i'w hadnabod fel Cymru. Dyma'r llyfr sy'n egluro pam, 'er gwaethaf pawb a phopeth, 'rydym yma o hyd'.
Yn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru, trafodir bryn gaerau cynhanesyddol, olion Rhufeinig, gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad Anghydffurfiaeth, y Chwyldro Diwydiannol, twf yr ymdeimlad cenedlaethol, streiciau'r glowyr a'r ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn, y mae'r stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.
- ISBN10 0140284761
- ISBN13 9780140284768
- Publish Date 25 January 2007
- Publish Status Active
- Out of Print 10 March 2021
- Publish Country GB
- Imprint Penguin Books Ltd
- Format Paperback (B-Format (198x129 mm))
- Pages 752
- Language English